Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad dielw ar gyfer aelodau a sefydlwyd i roi cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru. Rydym eisiau helpu i greu’r amodau yng Nghymru sy’n caniatáu i brosiectau ynni cymunedol lwyddo ac i gymunedau ffynnu.

Manylion mewngofnodi
- Os ydy eich sefydliad wedi ymateb i Gyflwr y Sector o’r blaen: mae gan sefydliadau sydd eisioes wedi darparu data gyfrif yn barod – rydym wedi e-bostio'r sawl sy’n gysylltiedig â’r ymatebion ar wahân. Mae modd i'r bobl hyn gael mynediad at y parth yn uniongyrchol gan ychwanegu unrhyw ddefnyddiwr arall sy’n gysylltiedig â’u sefydliad.
- Os nad ydy eich sefydliad wedi ymateb i Gyflwr y Sector o’r blaen: bydd angen i ddefnyddiwr cyntaf o sefydliad ynni cymunedol e-bostio jason@ynnicymunedol.cymru, a byddwn yn darparu’r manylion angenrheidiol er mwyn cael mynediad. Unwaith i chi gael mynediad, gall defnyddwyr ychwanegu pobl eraill sy’n gysylltiedig a’u sefydliad drwy eu gwahodd gydag e-bost. Gwasgwch ar eich sefydliad, wedyn “Members”, wedyn “+ Invite Members”. Bydd y defnyddwyr hyn hefyd yn gallu ychwanegu defnyddwyr eraill.
- Os nad ydych chi’n gwybod os ydy eich sefydliad wedi darparu data o’r blaen neu beidio, e-bostiwch jason@ynnicymunedol.cymru a byddwn yn darparu’r camau angenrheidiol.
Camau nesaf
Os ydych chi’n rhan o sefydliad ynni cymunedol, rhowch ddata eich sefydliad i mewn i’r parth. Bydd y parth yn aros ar agor i ddefnyddwyr i weld/ddiweddaru ac ychwanegu safleoedd drwy gydol y flwyddyn.
Os nad ydych chi’n rhan o fudiad ynni cymunedol, lledaenwch y gair fel bod pawb yn y sector yn clywed am ymchwil ac arolwg eleni.
Prif arolwg
Rydym wedi gwaredu rhai cwestiynau o’r arolwg nad oedd yn berthnasol neu ddefnyddiol bellach. Rydym hefyd wedi ychwanegu rhai cwestiynau newydd; mae’n arolwg hir, ond mae’r sector yn cynyddu yn ei amrywiaeth a’i chymhlethdod ac mae gennym rhagor a rhagor o ddefnydd ar gyfer y data i eirioli ar ran y sector ynghyd â’n helpu ni ddylunio mecanwaith ar gyfer y sector. Gofynnwn i sefydliadau ddarparu cynifer o ddata ag sy’n bosib.
Os ydych chi wedi darparu data’n flaenorol, gall defnyddwyr lawrlwytho’r data hwnnw o’r arolwg Cyflwr y Sector diwethaf a’i lawrlwytho fel PDF neu taenlen CSV. Yn yr arolwg byw, bydd atebion i gwestiynau heb ddyddiad e.e. “faint o weithwyr sydd gan eich sefydliad?” wedi’u llenwi gyda data fel bod defnyddwyr yn gallu edrych a diweddaru. Mae’r holl gwestiynau yn yr arolwg byw ar gael i weld fel bod defnyddwyr yn gallu casglu gwybodaeth o’r sefydliad cyfan.
Safleoedd ynni cymunedol
Rydym wedi creu ardal yn y parth ar gyfer ardaloedd ynni cymunedol. Gan fwyaf bydd rhain yn safleoedd lle mae ynni’n cael ei gynhyrchu e.e. gorsaf hydro neu adeilad gyda solar ar y to, ond gallai hefyd gynnwys lleoliad canolfannau cyngor ynni neu leoliadau lle mae gwasanaethau ôl-osod yn cael eu darparu. Mae’r holl ddata o’r adroddiad cyflwr y sector ac ein map cenedlaethol wedi ei fwydo i mewn i gyfrif y sefydliad. Ar gyfer lleoliadau newydd, gall defnyddwyr ddarparu lleoliad manwl gywir safle ar fap.
Mae lleoliadau’n bwysig gan fod ein map cenedlaethol sy’n cynnwys y data hwn yn boblogaidd iawn a defnyddiol i sefydliadau y tu fewn a thu allan i'r sector, felly rydym eisiau gwella cynhwysiant a chywirdeb y map.
Be fydd allbynnau ymchwil 2025?
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn Ynni Cymunedol yr Alban ac Ynni Cymunedol Lloegr i gynllunio allbynnau ymchwil y flwyddyn hon, fydd efallai’n cynnwys adroddiad, crynhoad, graffegau gwybodaeth a delweddau eraill i helpu cyfleu ystadegau’r sector yn glir i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Byddwn yn dechrau cyhoeddi ein allbynnau yn hwyr yn Chwarter 2 2025 unwaith i ni gael cyfle i ddadansoddi y data sy’n cael ei ddarparu i ni. Os ydych chi â diddordeb mewn allbynnau Cyflwr y Sector a all helpu eich gweithgaredd ynni cymunedol, cysylltwch â ni drwy jason@ynnicymunedol.cymru.